Ffoton

Gronyn elfennol o egni electromagnetig yw ffoton. Derbyniwyd y syniad fod gan ymbelydredd electromagnetig gysylltiad ag egni cwanta yn 1905 pan awgrymwyd hyn gan Albert Einstein. Darganfuwyd bod yr egni sydd gan y ffotonau yma mewn cyfrannedd union efo amledd y don. E = h f {\displaystyle \ E=hf} Lle:E yw'r Egni sydd gan ffoton mewn Jouleauh yw'r Cysonyn Planckf yw amledd y don mewn herts Awgrymodd Einstein rhai arbrofion a fyddai'n dangos cwanteiddiad egni sef y ffotonau yma. Yr arbrawf symlaf sy'n profi'r theori yw'r Effaith ffotodrydanol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne