Ffracio

Ffracio
Mathproses peirianyddol Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1947 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram o holltau a ffawtiau a achosir gan nwyon siâl

.

Ffracio gyda dŵr, dan wasgedd uchel

Ffracio (neu ffracio hydrolig) yw'r dull o dorri creigiau drwy wasgu gyda hylif sy'n cynnwys dŵr, tywod a chemegolion. Ceir ffracio naturiol ar adegau, e.e. mewn daeareg ceir gwythiennau a deics.[1] Mae'r hylif yn cael ei bwmpio dan bwysau enfawr i dyllau a wnaed gan ddril mewn craig, sy'n achosi i'r graig gracio ymhell o dan wyneb y ddaear. Drwy'r craciau hyn rhyddheir nwy, petroliwm a dŵr hallt. Mae'r gronynnau tywod yn yr hylif yn dal pob hollt bychan ar agor, sy'n caniatáu i'r nwyon a'r petroliwm ddianc o'r graig, a'i sugno i fyny i'r wyneb.

Dechreuwyd arbrofi â ffracio hydrolig yn 1947, a chychwynodd y gwaith masnachol cyntaf yn 1950. Yn 2012 roedd ffracio hydrolig wedi cymryd lle ar 2.5 miliwn o adegau, mewn gwahanol rannau o'r byd gyda ffynhonnau olew a ffynhonnau nwy. Roedd dros miliwn o'r rhain wedi digwydd yn Unol Daleithiau America.[2].

Ffracio ar waith

Mae ffracio'n destun dadl ym mhob cwr o'r byd, gyda rhai yn ei weld yn fwy 'gwyrdd' nag ynni niwclear ac yn ateb sydyn i'r broblem o ryddhau hydrocarbonau, ar y naill law.[3][4] Ar y llaw arall ceir dadleuon bod ffracio yn medru halogi'r gronfa ddŵr tanddaearol, yn halogi'r aer, yn creu sŵn ac y gall hyn effeithio ar iechyd pobl yn ogystal â'r amgylchedd. Cred gwrthwynebwyr ffracio hefyd y gall ffracio sbarduno daeargrynfeydd.[5]

Pan fo ffawtiau naturiol mewn craig, gall ffracio achosi problemau seismig; gwaharwddwyd ffracio mewn ardaloedd lle gwyddys bod y broblem hon yn bodoli; ond ar adegau mae'r ffawltiau'n bodoli heb yn wybod i'r daearegydd a gall chwistrellu hylif dan bwysau achosi gweithgaredd seismig a all, yn ei thro, achosi daeargrynfeydd bychain a difrod i adeiladau.[6]

  1. Blundell D., (2005). "Processes of tectonism, magmatism and mineralization: Lessons from Europe". Ore Geology Reviews 27: 340. http://books.google.co.uk/books?id=4DZCHESg9R4C&pg=PA340&dq=%22hydraulic+fracturing%22+veins+dykes&hl=en&sa=X&ei=K38oVK6UNKGf7gaW3oGwDw&ved=0CDMQ6AEwAA#v=onepage&q=%22hydraulic%20fracturing%22%20veins%20dykes&f=false.
  2. King, George E (2012) (PDF), Hydraulic fracturing 101, 'Society of Petroleum Engineers', Paper 152596, http://www.kgs.ku.edu/PRS/Fracturing/Frac_Paper_SPE_152596.pdf
  3. IEA (29 May 2012). Golden Rules for a Golden Age of Gas. World Energy Outlook Special Report on Unconventional Gas (PDF). OECD. tt. 18–27. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-05-17. Cyrchwyd 2015-01-25.
  4. Hillard Huntington et al. Adroddiad EMF 26: Changing the Game? Emissions and Market Implications of New Natural Gas Supplies Archifwyd 2020-11-30 yn y Peiriant Wayback.. Stanford University. Energy Modeling Forum, 2013.
  5. Brown, Valerie J. (February 2007). "Industry Issues: Putting the Heat on Gas". Environmental Health Perspectives (US National Institute of Environmental Health Sciences) 115 (2): A76. doi:10.1289/ehp.115-a76. PMC 1817691. PMID 17384744. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1817691/. Adalwyd 2012-05-01.
  6. Jared Metzker (7 Awst 2013). "Govt, Energy Industry Accused of Suppressing Fracking Dangers". Inter Press Service. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne