Gwirod

Gwirodydd ar werth mewn archfarchnad

Hylif yfadwy sy'n cynnwys alcohol a gaiff ei gynhyrchu trwy ddistyllu grawn, ffrwyth, neu lysiau eplesedig yw gwirod (lluosog: gwirodydd), diod ddistyll, neu licar (lluosog: licars; o'r Saesneg liquor)[1] neu weithiau, yn Ne Cymru, licorach.[1] Mae'r categori gwirodydd yn cynnwys absinth, brandi, fodca, jin, rỳm, schnapps, tecila a wisgi.

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, t. 828.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne