Imiwneiddio

Imiwneiddio
Mathimmune system process Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Imiwneiddio yw'r broses ble mae'r system imiwnedd unigolyn yn cael eu hatgyfnerthu yn erbyn asiant (a elwir yn immunogen).[1]

Ceir imiwnedd gweithredol pan fod unigolion yn cynhyrchu gwrthgyrff yn eu llif gwaed eu hun. Gall hyn ddigwydd naill ai yn naturiol pan fydd y corff wedi cael ei heintio gan glefyd, neu yn artiffisial drwy frechiad. Bydd imiwneiddio’n digwydd ar wahanol bwyntiau drwy gydol oes unigolyn, ond yn bennaf byddant yn digwydd yn ystod plentyndod.

Gall rhaglenni imiwneiddio cyffredinol arwain at ddifa clefydau.

Gall imiwnedd heidiol hefyd chwarae rhan mewn atal haint. Pan fod cyfran sylweddol o'r boblogaeth wedi cael ei brechu gallant weithredu fel amddiffyniad neu rwystr i eraill a darparu amddiffyniad i'r rhai sy’n ddiamddiffyn, trwy arafu neu stopio'r gadwyn haint.

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne