Llanystumdwy

Llanystumdwy
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9222°N 4.2713°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000089 Edit this on Wikidata
Cod OSSH473385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanystumdwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Eifionydd ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli, ar lannau Afon Dwyfor. Ystyr yr enw yw "yr eglwys wrth y tro ar Afon Dwy".

Mae'n enwog am ei chysylltiadau â Lloyd George. Treuliodd y 'Dewin Cymreig' ei blentyndod yn y pentref tan oedd yn 15eg oed, yng ngofal ei ewythr Richard Lloyd, crydd wrth ei grefft a gweinidog cynorthwyol yn y capel lleol: Capel Moreia. Cafodd Lloyd George ei gladdu yn Llanystumdwy.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yn Llanystumdwy ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, pan ddychwelodd Lloyd George yma i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith gan alw am bleidleisiau i ferched. Cafodd y merched eu llusgo o'r neuadd yn filain iawn a'u curo. Cafodd un ohonynt ei dillad wedi’u tynnu a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar pont Afon Dwyfor gerllaw, ac i’r creigiau oddi tano.[3]

Mae'n bentref deniadol lle gwelir nifer o fythynnod a thai sy'n dyddio o'r 17g a'r 18g, wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. Mae pont ddwy fwa sy'n dyddio o'r 17g ar Afon Dwyfawr ar gyrion Llanystumdwy.

Tŷ Newydd, Llanystumdwy
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Winning the vote for women in Wales". llgc.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-14. Cyrchwyd 31 Mawrth 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne