Pennog

Clupea harengus

Pysgod bychain olewog ydy penwaig neu ysgadan (Saesneg: herring) sydd yn rhan o rywogaeth Clupea ac sydd i'w canfod yn nŵr bas tymherol Cefnfor Gogledd yr Iwerydd, a'r Môr Baltig, gogledd y Môr Tawel a Môr y Canoldir. Mae 15 math o benwaig, y mwyaf cyffredin yw Pennog yr Iwerydd (Clupea harengus). Mae penwaig yn symyd o gwmpas mewn heigiau enfawr, ac yn symyd i lannau Ewrop ac America yn y gwanwyn lle delir hwy, eu halltu a'u cochi mewn niferoedd mawr. Gall "sardinau" a welir mewn caniau mewn archfarchnadau yn aml fod yn gorbennog (sprat) neu'n Bennog Mair mewn gwirionedd.

Eginyn erthygl sydd uchod am bysgodyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne