Polder

Delwedd lloeren o Noordoostpolder, Yr Iseldiroedd (595.41 km²)

Darn o dir isel wedi'i amgáu gan argloddiau sy'n ffurfio endid artiffisial hydrolegol yw polder (Ynganiad Iseldireg: [ˈpɔldər] (Ynghylch y sain ymagwrando)). Mae hynny'n golygu nad oes ganddo gysylltiad â dwr allanol heblaw trwy ddyfeisiadau sy'n cael eu rheoli â llaw.  Mae tri math o polder:

  1. Tir sydd wedi'i adfer o gorff o ddwr, megis llyn neu wely'r mor
  2. Gwastatir llifwaddod sydd wedi'i wahanu o'r mor neu afon gan arglawdd
  3. Corsydd sydd wedi'u gwahanu oddi wrth y dwr sy'n ei amgylchynu gan arglawdd ac sydd wedi'u traenio; mae rhain yn cael eu hadnabod hefyd fel koogs, yn arbennig yn yr Almaen

Mae lefel y tir mewn corsydd sydd wedi'u traenio yn suddo dros amser. Mae pob polder yn y pendraw yn gostwng o dan lefel y dwr o'u hamgylch naill ai ar adegau neu trwy'r amser. Mae dwr yn mynd i mewn i'r polder isel trwy ymdreiddiad o ganlyniad i bwysedd dwr o'r ddaear neu lawiad, neu trwy ddwr yn ei gyrraedd trwy afonydd neu gamlesi. Mae hyn fel arfer yn golygu bod gormod o ddwr yn y polder, sy'n cael ei bwmpio allan neu draenio naill ai trwy agor llifddor ar lanw isel. Rhaid cymryd gofal i beidio a gosod lefel y dwr mewnol yn rhy isel. Bydd tir sydd wedi'i wneud o fawn (a fu'n gors ar un adeg) yn suddo wrth i'r mawn bydru am ei fod yn agored i ocsygen o'r aer. 

Mae bob amser perygl o lifogydd gyda polderau, a rhaid cymryd gofal er mwyn amddiffyn yr argloddiau amgylchynol. Mae argloddiau fel arfer yn cael eu hadeiladu gyda deunyddiau lleol, ac mae gan bob deunydd ei beryglon: gall tywod ddymchwel; mae mawn sych yn ysgafnach ond mewn perygl o fethu dal y dwr yn ystod y tymhorau sych. Mae rhai anifeiliaid yn tyllu twneli yn y cloddiau, ac mae hynny'n caniatau i'r dwr dreiddio'r strwythur; mae'r mwsglygoden yn cael ei hadnabod am y gweithgaredd hwn ac yn cael ei hela mewn rhai gwledydd Ewropeaidd o'r herwydd. Mae polderau gan amlaf i'w ganfod mewn aberoedd afonydd, tiroedd a fu unwaith yn gorstiroedd ac ardaloedd arfordirol.

Mae gorlifo polderau hefyd wedi'i ddefnyddio fel tacteg filwrol yn y gorffennol. Un enghraifft yw gorlifo polderau ar hyd afon Yser yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf. Trwy agor llifddorau ar lanw uchel a'u cau ar lanw isel, trowyd y polderau yn gorsydd anhygyrch er mwyn atal byddin yr Almaen.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne