Trawsosod

Math o gyfnewidiad seinegol hanesyddol sy'n newid lle dwy sain yw trawsosod. Er enghraifft, mewn Cymraeg Canol disgwyddodd trawsosod yn y gair gwarchadw, a'r ddwy sain olaf, /d/ a /w/ yn newid lle, i lunio ffurf newydd gwarchawd, sy'n rhoi Cymraeg Diweddar gwarchod. Fel arfer mae trawsosod yn broses achlysurol; hynny yw, nid yw'n digwydd ym mhob gair sy'n cynnwys y seiniau pethnasol fel sy'n digwydd gyda'r rhan fwyaf o gyfnewidiadau seinegol. Fodd bynnag, mewn rhai ieithoedd, ceir enghreifftiau o drawsosod yn digwydd yn rheolaidd.

Enghreifftiau cyffredin o drawsosod mewn Cymraeg llafar diweddar yw ewyrth am ewythr, a brillyth am brithyll.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne