Walwniaid

Walwniaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathRomance people Edit this on Wikidata
Enw brodorolWalons Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pobl Ladinaidd sy'n frodorol i Walonia yn ne Gwlad Belg yw'r Walwniaid. Maent yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg a'r Walwneg. Disgynna'r Walwniaid o'r Gâl-Rufeiniaid a chanddynt waedoliaeth Germanaidd o'r hen Ffranciaid. Maent yn cyfri am ryw traean o boblogaeth Gwlad Belg, ac hwy yw grŵp ethno-ieithyddol fwyaf y wlad ar ôl y Ffleminiaid. Amcangyfrifir bod 4.2–5.3 miliwn o Walwniaid ethnig yn y flwyddyn 2015.[1]

Map ieithyddol Walonia.

Mae'r mwyafrif o Walwniaid a Ffleminiaid yn rhannu'r un traddodiad crefyddol, Pabyddiaeth, ac hanes gwleidyddol hir, ond nid yw'r ddwy gymdeithas yn siarad yr un ieithoedd. Iaith Romáwns a chanddi is-haen Gelteg a dylanwadau Germaneg yw'r Walwneg, a elwir weithiau yn "Hen Ffrangeg".[1] Yn yr 20g, cafodd ffurf safonol ar Ffrangeg ei ymsefydlu yn Walonia, ac erbyn heddiw dim ond rhyw draean o Walwniaid sy'n medru'r iaith frodorol. Ceir sefyllfa debyg i'r gogledd, lle mae'r Iseldireg wedi cymryd tir oddi ar Fflemeg. Er bod trigolion Ffrangeg y brifddinas Brwsel yn rhannu tras debyg â thrigolion Walonia, nid ydynt fel rheol yn ystyried eu hunain yn Walwniaid.[2]

O ran y Walwniaid Ffrangeg, siaredir Picardeg yng ngorllewin Walonia a Champenois a Lorrain yn y de-ddwyrain. Yn ogystal â phoblogaeth frodorol Walonia, triga Walwniaid sy'n siarad Walwneg yn département Ardennes yn Ffrainc, yn enwedig yr ardal o dir a amgylchynir gan y ffin â Gwlad Belg ar lannau Afon Moûze. Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r gymuned Almaeneg ger y ffin a'r Almaen, ac nid yw'r boblogaeth hon yn Walwniaid. Yn ne-ddwyrain Walonia mae siaradwyr Lwcsembwrgeg ger y ffin â Lwcsembwrg, ac fel rheol ystyrir y rhain yn Walwniaid yn hytrach na rhan o'r gymuned Almaeneg. O ganlyniad i ymfudo, triga nifer o bobl o dras Walwnaidd yn Québec, Canada, ac yn Wisconsin, UDA.

  1. 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw stateless
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw eep

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne