Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth
Enghraifft o'r canlynoladran academaidd Edit this on Wikidata
Rhan oPrifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
Adeilad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Hi yw'r adran brifysgol hynaf yn y byd i astudio cysylltiadau rhyngwladol.[1]

Sefydlwyd yr Adran a Chadair Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym 1919 gyda chymorth rhodd o £20,000 gan David Davies, er cof am y myfyrwyr a laddwyd ac a glwyfwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[2] Dilynodd prifysgolion eraill, megis Rhydychen ac Ysgol Economeg Llundain, trwy sefydlu cadeiriau eu hunain ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Credai Davies ac arloeswyr eraill y ddisgyblaeth bydd dysgu cysylltiadau rhyngwladol yn hyrwyddo heddwch a chefnogaeth dros gyfraith ryngwladol a Chyngrair y Cenhedloedd, a sefydlwyd hefyd ym 1919.[3] Yn ei Araith Agoriadol fel yr ail Athro Woodrow Wilson, nododd C. K. Webster yr oedd astudio cysylltiadau rhyngwladol yn ymateb i erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf ac bydd yn hanfodol wrth osgoi rhyfel arall o'r un fath yn y dyfodol.[4] Rhyngwladoldeb rhyddfrydol, rhyddfrydiaeth, a delfrydiaeth oedd uniongrededd cyntaf y ddisgyblaeth, gyda phwyslais ar harmoni diddordebau rhwng gwladwriaethau'r byd.

Ym mlynyddoedd diweddar, mae'r adran wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu'r Ysgol Gymreig (a elwir weithiau yn Ysgol Aberystwyth) yn astudiaethau diogelwch, traddodiad beirniadol sy'n cysylltu diogelwch â damcaniaeth feirniadol.

Mae'r adran yn cyhoeddi'r cyfnodolion Contemporary Wales, Critical Studies on Terrorism, Intelligence and National Security, International Relations, Kantian Review, Medicine, Conflict and Survival, a'r Minerva Journal of Women and War, a hefyd y cyfnodolyn myfyrwyr hynaf yn y Deyrnas Unedig, Interstate.

Mae'r adran yn cynnal darlithoedd blynyddol er cof am E. H. Carr a David Davies, ac yn cynnal Seminar Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn wythnosol.

  1. (Saesneg) McInness, Yr Athro Colin. Aber's Interpol. BBC. Adalwyd ar 26 Ionawr 2010.
  2.  Gweledigaeth Un Gŵr - a'r stori wedyn. Prifysgol Aberystwyth.
  3. Brown ac Ainley, tt. 21–2.
  4. Brown, tt. 58–9.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne