![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.15625°N 6.28806°W, 53.34358°N 6.19192°W ![]() |
Aber | Môr Iwerddon ![]() |
Llednentydd | Afon Dodder, Afon Poddle, Afon Camac, Rye ![]() |
Hyd | 125 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 13.8 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Mae Afon Life neu Afon Liffe (Gwyddeleg: An Life;[1] Saesneg: River Liffey) yn afon yn Iwerddon, sy'n llifo trwy ganol dinas Dulyn. Ymhlith yr afonydd llai sy'n ei bwydo mae'r afonydd Dodder, Poddle a'r Camac. Darpara'r afon rhan helaeth o gyflenwad dŵr y ddinas a nifer o gyfleoedd am weithgareddau adloniadol.
Tarddiad yr afon yw Cors Ben Life rhwng y mynyddoedd Kippure a Tonduff ym Mynyddoedd Wicklow. Mae’n llifo trwy Wicklow, Kildare a Dulyn cyn ymuno a’r Môr Iwerddon ynghanol Bae Dulyn. Hyd yr afon yw 132 cilomedr.[2]