![]() | |
Math | dinas hynafol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alecsander Fawr ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tajicistan ![]() |
Gwlad | Tajicistan ![]() |
Cyfesurynnau | 40.2861°N 69.6172°E ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd Alexandria Eschate (Groeg: 'Alexandria Bellaf') gan Alexander Fawr yn 329 CC fel ei wersyll fwyaf pellennig yng Nghanolbarth Asia. Fe'i sefydlwyd ganddo yn Nyffryn Fergana, ar lan ddeheuol afon Jaxartes (Syr Darya heddiw), ar safle dinas bresennol Khujand (neu Khodzhent; Leninabad yn y cyfnod Sofietaidd), yn Nhajicistan.
Cododd Alexander wal fric 6 km o gwmpas y ddinas, ac yno gadawodd grŵp o hen filwyr a chlwyfedigion yn wladfa Roeg ar gyrion eithaf Ymerodraeth Persia.