Algol

Algol
Enghraifft o'r canlynolseren newidiol Algol, spectroscopic binary, eclipsing binary star, seren ddwbl, near-IR source, UV-emission source Edit this on Wikidata
CytserPerseus Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear93 ±2 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Paralacs (π)36.27 ±1.4 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol3.7 ±3.9 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Tymheredd12,445 Kelvin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r seren. Am yr iaith raglennu, gweler ALGOL.

Lluos-seren ddisglair, sy'n cynnwys tair seren, yng nghytser Perseus yw Algol[1] (hefyd Beta Persei neu β Persei). Y tair seren sy'n ffurfio Algol yw β Persei Aa1, β Persei Aa2, a β Persei Ab. Y brif seren yw β Persei Aa1, sy'n boeth. Mae Persei β Aa2 yn fwy, ond yn oerach ac yn wanach. Mae'r ddwy seren hyn yn pasio o flaen ei gilydd yn rheolaidd, gan achosi eclipsau. Felly mae gan Algol fel arfer faintioli o 2.1, ond mae'r ffigur hwn yn disgyn yn rheolaidd i 3.4 bob 2.86 diwrnod yn ystod eclipsau rhannol sy'n para tua 10 awr.

Safle Algol yng nghytser Perseus

Mae Algol yn rhoi ei henw i'w ddosbarth o sêr newidiol, sef "sêr newidiol Algol".

Animeiddiad o seren newidiol Algol yn dangos yr amrywiad mewn goleuedd
  1. Richard Hinckley Allen, Star-Names and Their Meanings (Efrog Newydd, 1899), t.332

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne