Alpau

Alpau
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen, Awstria, Y Swistir, Ffrainc, yr Eidal, Slofenia, Monaco, Liechtenstein Edit this on Wikidata
Arwynebedd190,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5781°N 8.615°E Edit this on Wikidata
Hyd1,200 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOligosen, Tertiary Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig igneaidd, flysch, molasse, craig fetamorffig, craig waddodol Edit this on Wikidata
Mont Blanc, mynydd uchaf yr Alpau.

Mae'r Alpau (yn hanesyddol Mynydd Mynnau) yn gadwyn o fynyddoedd yng nghanol Ewrop. Y mynydd uchaf yw Mont Blanc, sy'n 4,810 medr o uchder. Mae'r mynyddoedd uchaf yn Ffrainc, Y Swistir, Awstria a'r Eidal, ond mae rhannau is o'r Alpau hefyd yn Monaco, Slofenia, Yr Almaen a Liechtenstein. Mae'r gadwyn hon o fynyddoedd yn ymestyn 1,200 km (750 milltir) o'r gorllewin i'r dwyrain ar hyd 8 gwlad.

Mae'r Alpau Gorllewinol yn dechrau gerllaw Môr y Canoldir ac yn ymestyn hyd y Valais. Mae'r Alpau Canol yn ymestyn o'r Valais hyd Grisons, a'r Alpau Dwyrieiniol ym ymestyn ymlaen o Grisons i'r dwyrain a'r de.

Mae'r bwa Alpaidd yn gyffredinol yn ymestyn o Nice ar orllewin Môr y Canoldir i Trieste ar yr Adriatig a Fienna. Ffurfiwyd y mynyddoedd dros ddegau o filiynau o flynyddoedd yn ôl wrth i'r platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd wrthdaro. Arweiniodd hyn at greigiau gwaddodol morol yn codi'n gopaon uchel fel Mont Blanc a'r Matterhorn.

Mae Mont Blanc yn rhychwantu'r ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, ac ar 4,809 metr (15,778 tr) hwn yw'r mynydd uchaf yn yr Alpau. Ceir 128 copa uwch na 4,000 metr yn yr ardal Alpaidd. Mae uchder a maint yr gadwen yn effeithio ar yr hinsawdd yn Ewrop; yn y mynyddoedd, mae lefelau dyodiad yn amrywio'n fawr ac mae amodau hinsoddol yn cynnwys parthau gwahanol iawn. Gwelir yr ibex yn y copaon uwch i ddrychiadau o 3,400 metr ac mae planhigion fel Edelweiss yn tyfu mewn ardaloedd creigiog.

Mae tystiolaeth o bobl yn byw yn yr Alpau yn mynd yn ôl i Hen Oes y Cerrig (Paleolithig). Ym Medi 1991 darganfuwyd corff dyn mewn rhew, a elwir bellach yn Ötzi a drigai yn yr ardal rhwng 3350 a 3105 CC. Erbyn y 6g CC, roedd y diwylliant Celtaidd La Tène wedi'i hen sefydlu drwy'r rhan hon o Ewrop. Croesodd Hannibal yr Alpau a gyr o eliffantod, ac bu'r Rhufeiniaid hefyd yn y rhanbarth am gyfnod byr. Ym 1800, croesodd Napoleon un o'r bylchau, gyda byddin o 40,000. Yn y 18fed a'r 19g gwelwyd mewnlifiad o naturiaethwyr, awduron ac artistiaid, yn benodol, y Rhamantwyr, ac yna oes aur Alpiniaidd wrth i fynyddwyr ddechrau esgyn i'r copaon.

Mae gan y rhanbarth Alpaidd hunaniaeth ddiwylliannol gref. Mae'r diwylliant traddodiadol o ffermio, gwneud caws a chrefftau pren yn dal i fodoli mewn pentrefi Alpaidd, er i'r diwydiant twristiaeth ddechrau tyfu'n gynnar yn yr 20g ac ehangu'n fawr ar ôl yr Ail Ryfel Byd i ddod yn brif ddiwydiant erbyn diwedd y ganrif. Mae'r Alpau yn eithriadol o boblogaidd yn enwedig gan ddringwyr a cherddwyr. Efallai mai'r sialens enwocaf yn yr Alpau yw dringo wyneb gogleddol yr Eiger yn y Swistir.

Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf wedi cael eu cynnal yn Alpau'r Swistir, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a'r Almaen. Yn y 2020au roedd gan rhanbarth yn gartref i 14 miliwn o bobl ac mae ganddo 120 miliwn o ymwelwyr blynyddol.[1]

  1. Chatré, Baptiste, et al. (2010), 8

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne