Mabwysiadwyd baner Catar (Arabeg: علم قطر) yn ei ffurf bresennol ar 9 Gorffennaf 1971. Mae baner Catar, sy'n wladwriaeth yn Arabia yn hynod am ei ddefnydd unigryw o ran baneri'r byd o'r lliw Bwrgwyn ac oherwydd ei fod, fel ei gymydog-wlad, Baner Bahrain, yn cynnwys llinell igam-ogam yn rhannu'r faner deuliw yma. Mae hefyd yn hynod am ei siâp anghyffredin o hir a thenau gyda'r gymhareb 11:28. Baner Catar yw'r unig faner genedlaethol sydd â'i hyd mwy na ddwywaith ei huchder (lled).[1]