Baner Gwlad Iorddonen

Baner Gwlad Iorddonen

Baner drilliw lorweddol o'r lliwiau pan-Arabaidd, gyda stribed uwch du, stribed canol gwyn, a stribed is gwyrdd, gyda thriongl coch yn yr hoist â seren saith-pwynt wen yn ei ganol yw baner Gwlad Iorddonen. Mae saith pwynt y seren yn cynrychioli saith pennill Al-Fâtiha y Coran. Cyflwynwyd y faner ym 1921, a mabwysiadwyd yn swyddogol ar 16 Ebrill 1928.

Mae Arfbais Gwlad Iorddonen hefyd yn cynnwys baner yn ei dyluniad, ond baner y Gwrthryfel Arabaidd gwelir yma, sef, sail baner gyfredol Gwlad Iorddonen a'r lliwiau Pan Arab a ddefnyddir gan sawl gwlad Arabaidd arall.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne