Belarwsiaid

Belarwsiaid
Hen ffotograff o'r werin Felarwsiaidd o ardal Babruysk.
Cyfanswm poblogaeth
9–10 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Belarws, Rwsia, Yr Wcráin, Latfia, Casachstan, Gwlad Pwyl, Lithwania
Ieithoedd
Belarwseg, Rwseg
Crefydd
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Yr Eglwys Babyddol
Grwpiau ethnig perthynol
Rwsiaid, Wcreiniaid, Rwtheniaid

Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i wlad Belarws yn Nwyrain Ewrop yw'r Belarwsiaid. Belarwseg yw eu hiaith frodorol, er bod Rwseg yn iaith ddyddiol y mwyafrif erbyn heddiw. Maent yn cyfrif am ryw 84% o boblogaeth Belarws. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddwyreiniol ac yn perthyn yn agos i'r Rwsiaid, yr Wcreiniaid a'r Rwtheniaid.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne