Bro Morgannwg (etholaeth seneddol)

Bro Morgannwg
Etholaeth Sir
Bro Morgannwg yn siroedd Cymru
Creu: 1983
Math: Tŷ'r Cyffredin
AS presennol: Alun Cairns (Ceidwadwr)

Etholaeth yn ne Cymru yw Bro Morgannwg, sy'n danfon cynrychiolydd i San Steffan. Alun Cairns (Ceidwadwr) yw'r Aelod Seneddol presennol.

Mae'r ertholaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardaloedd ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn yr etholaeth, ynghyd â chanolfan atgyweirio awyrennau yn Sain Tathan.

Mae'r etholaeth wedi bod yn un ymylol yn y gorffennol, gyda'r Ceidwadwyr yn ei chipio ym 1992 o 19 bleidlais yn unig. O hynny tan 2010 roedd hi yn nwylo'r Blaid Lafur. Cynrychiolodd John Smith o'r Blaid Lafur Bro Morgannwg yn San Steffan o 1989 - 1992 ac o 1997 - 2010.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne