Bryn Terfel

Bryn Terfel
GanwydBryn Terfel Jones Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Pant Glas Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton Edit this on Wikidata
PriodHannah Stone Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, The Queen's Medal for Music, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, Echo Klassik Male Singer of the Year Edit this on Wikidata
Eisteddfod Môn 1992

Mae Syr Bryn Terfel (ganwyd 9 Tachwedd 1965) yn fariton ac yn ganwr opera byd-enwog. Fe'i ganwyd ym Mhant Glas, Gwynedd. Bu'n canu a chystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn ifanc iawn. Fe'i cysylltwyd ef yn fuan iawn yn ei yrfa gyda gwaith Mozart, yn enwedig Figaro a Leporello, ond ehangwyd ei repertwâr i gynnwys gwaith trymach o lawer megis gwaith Wagner.

Graddiodd o'r Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn 1989, ac enillodd Wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989.

Ers hynny mae wedi canu prif rannau ym mhrif dai opera'r byd gyda chlod uchel. Bryn Terfel yw sefydlydd Gŵyl y Faenol, a gynhelir bob mis Awst ar Stâd y Faenol, ger Bangor.

Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[1][2][3]

Cafodd Syr Bryn ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines y Deyrnas Unedig ar 31 Rhagfyr 2016.[4]

  1. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  2. "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
  3. Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
  4. Golwg360

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne