Carthago

Carthago
Mathdinas-wladwriaeth, emporia, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Gefeilldref/iUccle Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirExarchate of Africa Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.852558°N 10.323461°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas-wladwriaeth yng Ngogledd Affrica, yn Nhiwnisia fodern, ydy Carthago (o'r Lladin, o'r Ffeniceg Qart-Hadašh, y "Ddinas Newydd" yn wreiddiol, a ysgrifennir heb y llafariaid yn y Ffeniceg fel <qrt hdšh>, Groeg: Καρχηδών (Carchedón), Arabeg: قرطاج neu قرطاجة‎, Ffrangeg: Carthage). Saif gerllaw Gwlff Tiwnis. Yn y cyfnod clasurol roedd yn un o'r pŵerau mawr, a bu'n ymladd yn erbyn y Groegiaid ac wedyn yn erbyn y Rhufeiniaid.

Lleoliad Carthago

Yn ôl traddodiad glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyrus yma tua 700 CC a sefydlu'r ddinas. Credir mai marsiandiwyr o ddinas Tyrus fu'n gyfrifol am sefydlu Carthago mewn gwirionedd, ac ystyrid Tyrus fel y fam-ddinas.

Rheolid y ddinas gan oligarchiaeth, nid annhebyg i lywodraeth Rhufain ar y pryd, ond nid oes llawer o fanylion ar gael. Gelwid yr arweinwyr yn sufete (yn llythrennol, "barnwyr"); roedd un neu ddau sufete yn cael eu hethol bob blwyddyn o blith y teuluoedd mwyaf aristocrataidd. Tyfodd y ddinas fel ymerodraeth fasnachol yn y lle cyntaf, gyda perthynas gref a dinas Tartessos a dinasoedd eraill yn Sbaen.

Yn ôl y Groegwyr a'r Rhufeiniaid, roedd crefydd Carthago yn nodedig am ei bod yn galw am aberthu plant bychain. Crybwyllir hyn gan Plutarch, Tertulian a Diodorus Siculus, er nad yw haneswyr eraill megis Livy a Polibius yn ei grybwyll. Mae cloddio archaeolegol diweddar wedi darganfod gweddillion llosgedig tua 20,000 o blant wedi eu claddu rhwng 400 CC a 200 CC yn y fynwent blant a elwir y Toffet. Cred rhai mai gweddillion plant oedd wedi marw'n naturiol ydynt, ac mae'r ddadl yn parhau. Prif dduwiau a duwiesau'r ddinas oedd Melqart, Ashtart (Astarte), Tanit a Baal Hammon.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne