Cell (bioleg)

Cell
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, math o gell Edit this on Wikidata
Mathcydadran neu elfen fiolegol, strwythur anatomegol Edit this on Wikidata
Rhan ostrwythur amlgellog, group of cells, meinwe Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscydran cellog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Celloedd ym mlaenwreiddyn y nionyn.

Uned sylfaenol pob organeb fyw yw cell. Y gell yw'r uned fiolegol leiaf sy'n gallu dyblygu'n annibynnol, drwy broses cellraniad. Bioleg cell yw'r gangen o'r gwyddorau bywyd sy'n astudio celloedd. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, a nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell cytoplasm y tu mewn i gellbilen, sy'n cynnwys biomoleciwlau megis proteinau ac asidau niwclëig.[1] Y gellbilen sy'n amddiffyn y gell ac yn gweithredu fel hidlydd o'i hamgylch, gan adael sylweddau i ddianc o'r gell neu ddod i mewn iddi trwy broses o drylediad neu osmosis. Cludir sylweddau hanfodol ar draws y gellbilen trwy gludiant actif, sef proses sy'n defnyddio ynni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad. Mae i bob cell hefyd DNA sy'n cynnwys ei wybodaeth genetig. Yn ogystal â chellraniad, mae tasgau cyffredin sylfaenol y gell yn cynnwys metabolaeth, sy'n newid defnydd newydd i ynni ac yn gwaredu defnydd gwastraff, a synthesis protinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA ac mRNA i brotinau.

Dosbarthir organebau yn fodau ungellog ac amlgellog. Organebau ungellog procaryotig megis bacteria oedd y ffurf gyntaf ar fywyd ar y Ddaear. Mae planhigion, anifeiliaid, ffyngau, protosoaid, llwydni llysnafeddog, ac algâu i gyd yn ewcaryotau. Gall ewcaryot fod yn ungellog neu'n amlgellog, ond y peth sy'n ei hynodi yw'r cnewyllyn. Amrywia'r nifer o gelloedd o un rywogaeth i'r llall, er enghraifft mwy na 10 triliwn (1012) sydd gan y corff dynol.[2] Mae angen microsgop i weld y mwyafrif o gelloedd planhigion ac anifeiliaid, sy'n mesur rhwng 1 a 100 micrometr.[3]

  1. Cell Movements and the Shaping of the Vertebrate Body in Chapter 21 of Molecular Biology of the Cell fourth edition, edited by Bruce Alberts (2002) published by Garland Science.
  2. Alberts, t. 2.
  3. Campbell, Neil A.; Brad Williamson; Robin J. Heyden (2006). Biology: Exploring Life. Boston, Massachusetts: Pearson Prentice Hall. ISBN 0-13-250882-6.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne