Cerrynt trydanol

Cerrynt trydanol
Mathcurrent Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwifren copor nodweddiadol o ddyfais trydanol

Cerrynt trydanol yw llif o wefr drydanol. Mewn cylchedau trydanol gall y wefr drydanol yma gael ei gario drwy naill ai symud electronau ar weiren, neu drwy gario ïonau ar electrolyt. Gall y ddau yma ddigwydd gyda'i gilydd, yr electronau a'r ïonau, fel a wneir mewn plasma.[1]

Mesurir cerrynt trydanol mewn amperau gan ddefnyddio amedr.

Mae llif cerrynt yn achosi cynhesu Joule, sydd yn ei dro'n creu golau mewn bylbiau; mae hefyd yn creu maes magnetig, a ddefnyddir mewn modur, anwythydd a generadur.

Mae cerrynt yn llifo'n hawdd trwy rai deunyddiau ond mae'n anodd iddo lifo drwy ddefnyddiau eraill. Dargludyddion yw'r enw ar ddeunyddiau y mae cerrynt yn llifo'n hawdd drwyddynt; y metalau arian, copr ac alwminiwm er enghraifft. Yr enw ar y deunyddiau sydd yn ei gwneud hi'n anodd i gerrynt lifo yw ynysyddion. Mae plastigion fel PVC, polythen a persbecs, a gwydr a rwber yn ynysyddion da.

Mae cerrynt yn llifo drwy wifren neu ddeunydd oherwydd yr electronau rhydd, mewnol; os oes llawer ohonynt (e.e. copr) bydd y dargludydd yn un da. Os na fydd llawer ohonynt (e.e. PVC) bydd yn ynysydd da. Mae yna lawer o ddeunyddiau sy'n ddargludyddion trydanol da sydd hefyd yn ddargludyddion gwres da. Gall trydan lifo drwy nwyon a hefyd hylifau anfetalaidd, mae hyn oherwydd yr ïonau positif a negatif sydd ganddynt.

Hafaliad cerrynt yw:

lle:
I yw'r cerrynt a lifith
yw'r newid mewn cerrynt trydanol
yw'r newid mewn amser

  1. Lakatos, John (Mawrth 1998). "Learn Physics Today!". Lima, Peru: Colegio Dr. Franklin D. Roosevelt. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-27. Cyrchwyd 2009-03-10. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne