Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Christabel Pankhurst (22 Medi1880 - 13 Chwefror1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched y dosbarth canol ac uwch; roedd yn ferch i Emmeline Pankhurst. Roedd hefyd yn gyd-sefydlydd Undeb Sosialaidd a Gwleidyddol y Merched sef y Women's Social and Political Union (WSPU), a daliodd ati i ddanfon gorchymynion ac anogaeth i'r Undeb, hyd yn oed rhwng 1912 a 1913 pan oedd yn alltud yn Ffrainc. Yn wahanol i'w chwaer iau Adela Pankhurst, cefnogai'r rhyfel yn erbyn yr Almaen. Wedi'r rhyfel, aeth i Unol Daleithiau America, lle ymgyrchodd fel efengylydd yn y mudiad yr Ailatgyfodiad.[1][2][3][4][5][6]