Cragen

Casgliad o gregyn

Rhan allanol o gorff anifail yw cragen (lluosog: cregyn) sy'n bywyd yn y môr. Yn aml, gwelir llawer o gregyn gwag wedi'u gadael ar draethau, gan y llanw; mae'r rhain yn wag gan fod corff meddal yr anifail naill ai wedi cael ei fwyta gan anifail arall neu wedi hen bydru. Ceir math arall o gregyn, sef cregyn gastropodau fel y falwen, sy'n byw ar y tir. Mae'r erthygl hon yn ymwneud â chregyn morol yn unig.

Ysgerbwd allanol infertebrat (anifail heb asgwrn cefn) ydyw ac mae'r rhan fwyaf o'r cregyn a ganfyddir ar draethau'n perthyn i folysgiaid morol - yn rhanol gan fod y cregyn hyn yn galetach na mathau eraill. Ar wahân i gregyn molysgiaid ceir hefyd lawer o gregyn gwichiaid, crancod a braciopodau. Mae'r llyngyr cylchrannog o deulu'r Anelid yn ffurfio cragen siâp tiwb o galsiwm carbonad (sydd a fformiwla cemegol: CaCO3); mae'r tiwbiau hyn yn cael eu gludo i wrthrychau fel carreg.

Mae pobl wedi defnyddio cregyn ers miloedd o flynyddoedd ar gyfer gwahanol ddibenion, gan gynnwys tlysau neu lestri dal hylif.

Ceir cregyn mewn dŵr croyw yn ogystal â dŵr hallt e.e. ceir math o cregyn glesion sy'n byw mewn dŵr croyw, a does na ddim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau fath o gragen.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne