Cwyr

Cannwyll a wneir o gwyr.

Sylwedd ystwyth ac anhydraidd a chanddo gyfernod ffrithiant isel yw cwyr. Mae dau brif fath: cwyrau mwynol, sydd yn hydrocarbonau o bwysau molecylaidd uchel a chanddynt strwythur ficrogrisialaidd; a chwyrau planhigion ac anifeiliaid sydd yn esterau o asidau brasterog sydd yn cyflawni ffwythiant amddiffynnol. Mae hefyd cwyrau organig synthetig sydd yn gyffredinol yn rhannu'r un gyfansoddiad cemegol â chwyrau naturiol.[1]

Mae cwyrau yn debyg i frasterau, er enghraifft mae'r ddau fath o sylwedd yn hydawdd yn yr un sylweddau ac yn gadael marciau saim ar bapur. Mae cwyrau yn tueddu i fod yn llai seimllyd, yn galetach, ac yn freuach na brasterau.[2]

  1. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 1630.
  2. (Saesneg) wax. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne