Cymesuredd

'Dyn Vitruvia' gan Leonardo da Vinci (ca. 1487): darlun a ddefnyddir yn fydeang i gynrychioli siap cymesur.

Mewn iaith gyffredin cyfeiria cymesuredd at synnnwyr o gyfartaledd a chydbwysedd. Mewn mathemateg mae iddo ystyr fwy pendant, sef bod gwrthrych yn sefydlog i drawsnewidiad, megis adlewyrchiad, ond hefyd mathau eraill o drawsnewdiad.

Ceir sawl math elfennol o gymersuredd gan gynnwys cymersuredd drwy: raddfa, adlewyrchiad, cylchdro a chymesuredd ffwythiannol. Ceir mathau gwahanol o gymesuredd hefyd mewn cerddoriaeth, iaith, gwrthrychau haniaethol, modelu mathemategol theori a hyd yn oed gwybodaeth.[1] Gellir ei ganfod o fewn gwrthrychau pob dydd megis person, crisialau, cwilt ar wely, teils ar lawr, adeiladau, moleciwlau neu o fewn y byd natur ac o fewn gwrthrychau haniaethol megis fformiwlâu mathemategol.

Mae'r erthygl hon yn disgrifio cymesuredd o dri safbwynt: mewn mathemateg, gan gynnwys geometreg, y math cymesuredd mwyaf cyfarwydd i lawer o bobl; mewn gwyddoniaeth a natur; ac yn y celfyddydau, gan gwmpasu pensaernïaeth, celf a cherddoriaeth.

Y gwrthwyneb i gymesuredd yw anghymesuredd, sy'n cyfeirio at absenoldeb neu dorri cymesuredd.

  1. Mainzer, Klaus (2005). Symmetry And Complexity: The Spirit and Beauty of Nonlinear Science. World Scientific. ISBN 981-256-192-7.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne