Dewiniaeth

"Circe yn Cynnig y Cwpan i Wlysses" gan John William Waterhouse

Dewiniaeth, (hefyd dewindabaeth, hudoliaeth, y gelfyddyd a swyngyfaredd) yw'r term am ddylanwadu ar ddigwyddiadau, gwrthrychau, pobl a ffenomena trwy foddion goruwchnaturiol, paranormal neu gyfriniol. Gallai hefyd gyfeirio at yr ymarferion a ddefnyddir i wneud hynny, a'r credau sy'n defnyddio'r rhain i esbonio digwyddiadau a ffenomena. Mewn termau ocwltwyr modern, dewino yw'r weithred o gyfuno'r bydol â'r aruchel er mwyn canolbwyntio'r ewyllys fel y caiff ddylanwad ar ddigwyddiad, gwrthrych, a bodau. Yn aml mae cyfriniaeth, ocwltiaeth, crefydd, gwyddoniaeth, a seicoleg yn dylanwadu ar ddewiniaeth.

Un o nodweddion sylfaenol dewiniaeth yw'r gred y gall efelychiad o weithred gael yr un effeithiau â'r weithred go iawn. Gwneir hynny drwy gyfatebiaeth symbolaidd. Enghraifft o hynny yw "lladd" neu niweidio dòl gŵyr sy'n cynrychioli person go iawn, yn y gred y byddai'r fath efelychiad yn cael effaith cyffelyb ar y person hwnnw. "Dewiniaeth sympathetig" yw'r enw ar y cysyniad hwn. Mae dewiniaeth sympathetig yn ffurfio rhan hanfodol o bron bob math o ddewiniaeth, o siamaniaeth i ddewiniaeth ddefodol, sy'n ffocysu ar y defnydd o ddefodau sydd llawn cyfatebiadau symbolaidd cymhleth er mwyn dewino, yn ogystal â mewn defodau crefyddol megis yr offeren Gristnogol.

Yn aml defnyddir technegau i weld pethau'r tu hwnt i'r dewin mewn gofod ac amser, yn bennaf i ddarogan y dyfodol. Roedd unwaith adeg yng Nghymru pan fyddai darogan yn rhan barchus, gydnabyddedig o fywyd cymdeithas, fel mae sylwadau Gerallt Cymro ynglŷn ag awenyddion[1] a hanes dynion hysbys yng Nghymru yn tystio. Yn ôl tystiolaeth gynnar, roedd darogan yn rhan sylfaenol o fywyd crefyddol y Celtiaid, gyda vates (Gâl) a fili (Iwerddon) yn gyfrifol amdano gan amlaf. Byddai rhai yn derbyn eu gwybodaeth am y dyfodol drwy arsylwadau o ehediadau a galwadau adar. Dull arall ymhlith y Celtiaid oedd darogan yn ôl breuddwydion neu weledigaethau a gafwyd mewn llewyg, neu "swyngwsg",[2] sy'n ffurf ar hypnotiaeth.

Ffurf arall ar ddarogan yw sêr-ddewiniaeth neu "astroleg", sef grŵp o systemau, traddodiadau, a chredoau lle mae gwybodaeth am leoliad planedau yng nghyswllt cytserau'r Sidydd yn galluogi i'r dewin ddeall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaethau pobl a rhagddweud eu dyfodol. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft, roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol. Roedd sêr-ddewiniaeth a'r defnydd o horosgopau yn boblogaidd iawn ymhlith dynion hysbys yng Nghymru, a ddefnyddiai hefyd ddaeargoel i ddarogan y dyfodol.

  1. Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro, Caerdydd, 1938.
  2. Griffiths, Kate Bosse; Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru, td 83-84 , Y Lolfa 1977.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne