Dillad

Baban yn gwisgo sawl dilledyn gaeaf: band pen, cap, côt ffwr, siôl a siwmper.
Dillad traddodiadol sy'n dynodi statws: Mohammed Ali Khan, Emir Bokhara, yn 1944

Deunydd naturiol neu artiffisial a wisgir gan bobl yw dillad i gadw'r corff yn gynnes neu i amddiffyn neu addurno'r corff. Cânt eu gwisgo hefyd er mwyn bod yn gyffyrddus neu i adlewyrchu gwerthoedd gymdeithasol neu grefyddol.

Gall dillad amddiffyn y corff dynol rhag peryglon yn yr amgylchedd, e.e. tywydd eithafol (heulwen cryf, poethder neu oerni, glaw, a.y.y.b.), pryfed, cemegion, deunydd garw fel carreg, arfau a pheryglon eraill. Gyda dillad y mae'r corff dynol yn llai agored i niwed ac mae pobl yn medru addasu i sawl amgylchedd.

Mae pobl wedi bod yn ddyfeisgar iawn dros y canrifoedd yn cynllunio dillad i gwrdd ag anghenion bywyd dan bob math o amgylchiadau. Mae'r term dillad yn gallu cynnwys gwisg arbennig felly nad yw'n cael ei gwisgo fel rheol, e.e. siwt gofod, arfwisg, siwt plymio, costiwn nofio fel y bicini, dillad gyrrwr beic, ac ati.

Galla dillad fod o arwyddocad crefyddol hefyd, e.e. gwisg mynachod neu'r hijab Islamaidd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne