Ewcaryot

Organeb gyda chelloedd cymhleth yw ewcaryot. Mae gan gelloedd ewcaryotau gnewyllyn sy'n cynnwys y cromosomau. Mae'r celloedd yn rhannu drwy feiosis neu fitosis.

Mae'r ewcaryotau'n ffurfio un o'r tri pharth o organebau byw; y bacteria a'r archaea yw'r lleill. Rhennir yr ewcaryotau yn bedair teyrnas yn draddodiadol: anifeiliaid, planhigion, ffyngau a phrotistiaid. Holltir y protistiaid yn sawl grŵp gwahanol gan lawer o dacsonomegwyr modern.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne