Ffwythiant

Ffwythiant
Trosiad o ddiagram, sy'n disgrifio ffwythiant fel "peiriant" sydd troi treulio pob mewnbwn cyn dychwelyd allbwn cyfatebol.
Enghraifft o'r canlynolcysyniad mathemategol Edit this on Wikidata
Mathperthynas ddeuaidd, partial function, generalized function Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmultivalued function Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmapping, argument of a function, function value, arity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mynegiad, broses neu reol fathemategol sydd yn diffinio perthynas rhwng dau newidyn – y newidyn annibynnol a'r newidyn dibynnol – yw ffwythiant (ll. ffwythiannau). Mae ffwythiant yn broses ac yn creu pertynas rhwng pob elfen x o set X, sef 'parth' y ffwythiant, gydag un elfen y o ail set Y, sef cytbarth y ffwythiant. Fel arfer os gelwir y ffwythiant yn f, yna ysgrifennir ffwythiant fel y = f (x), yma:

x yw'r newidyn annibynnol, yr ymresymiad neu 'fewnbwn' y ffwythiant.
y yw gwerth y ffwythiant, neu 'allbwn' y ffwythiant; weithiau dywedir mai y yw "delwedd" x wrth f.
f yw'r ffwythiant

Y symbol a ddefnyddir i gynrychioli'r mewnbwn yw newidyn y ffwythiant; yn aml, dywedir fod f yn ffwythiant o'r newidyn x).[1]

Mae ffwythiant o set X i set Y yn aseiniad o elfen o Y i bob elfen o X. Gelwir y set X yn barth y swyddogaeth a gelwir y set Y yn 'gyd-barth y ffwythiant'.

Mae ystyr y gair wedi newid cryn dipyn ers ei ddefnydd gwreiddiol, pan gynrychiolai'r gair sut mae maint neu feintiau newidiol yn dibynnu ar faint arall. Er enghraifft, mae lleoliad planed yn ffwythiant o amser. Ymhelaethwyd ar y cysyniad hwn ymhellach dros y blynyddoedd gyda dyfodiad 'calcwswl infinitesimal' ar ddiwedd y 17g a hyd at y 19g, pan oedd y ffwythiannau a ystyriwyd yn ddifferadwy (differentiable; hynny yw, roedd ganddynt raddau helaeth o reoleidd-dra). Cafodd y cysyniad o ffwythiant ei ffurfioli ar ddiwedd y 19g o ran theori set, ac mae hyn wedi ehangu'r cysyniad a'i gymhwysiad.[2]

Mae'r gromlin goch yn nodi'r ffwythiant; mae gan pob llinell fertig un pwynt-croesi ar y gromlin.

Cynrychiolir ffwythiant mewn modd unigryw iawn, a hynny gan ei graff - mewn set sy'n cynnwys pob pâr (x, f (x)). Pan fo'r parth a'r cytbarth yn set o rifau, efallai y bydd pob pâr o'r fath yn cael ei ystyried fel cyfesurynnau Cartesaidd pwynt yn y plan. Yn gyffredinol, mae'r pwyntiau hyn yn ffurfio cromlin, a elwir hefyd yn graff y ffwythiant. Mae hwn yn gynrychiolaeth ddefnyddiol o'r ffwythiant, a ddefnyddir yn gyffredin ymhobman, er enghraifft mewn papurau newydd.

  1. MacLane, Saunders; Birkhoff, Garrett (1967). Algebra (arg. First). New York: Macmillan. tt. 1–13.
  2. Hamilton, A. G. Numbers, sets, and axioms: the apparatus of mathematics. Cambridge University Press. t. 83. ISBN 0-521-24509-5.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne