Glo

Glo
Mathsolid fuel, craig waddodol Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscarbon, Q16721862, maceral Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o feusydd glo Cymu a Lloegr gan W. Smith, 1820. Glo: du.

Craig waddod ddu neu ddu-frown hylosg yw glo. Mae mwy na phumdeg y cant wrth ei bwysau a mwy na saithdeg y cant wrth ei gyfaint yn garbon (hyd yn oed wrth gyfri'r dŵr sydd ynghlwm ynddo). Mae'n bwysig fel tanwydd ffosil er mwyn cynhyrchu gwres. Gellir defnyddio glo i gynhyrchu trydan.

Cynhyrchwyd dyddodion glo anferth o hen wlyptiroedd a elwir yn fforestydd glo a oedd yn gorchuddio llawer o ardaloedd tir trofannol y Ddaear yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd Uchaf a'r Permaidd. Trowyd planhigion marw yn fawn ar wlyptiroedd ac o'i wasgu am filiynau o flynyddoedd trowyd y mawn yn lo. Planhigion pennaf y fforestydd glo oedd cnwpfwsoglau, coedredyn a marchrawn - i gyd yn blanhigion llysieuol a dyfent cymaint â choeden y pryd hynny ond sy'n tyfu'n llai o faint heddiw.

Yn anffodus, mae glo yn creu nifer o broblemau i'r amgylchfyd. O ganlyniad i losgi glo mae carbon deuocsid, y prif nwy tŷ gwydr, sylffur deuocsid a llwch yn cael eu gollwng i'r awyr.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne