![]() | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth y bobl, hermit kingdom ![]() |
---|---|
Prifddinas | P'yŏngyang ![]() |
Poblogaeth | 25,490,965 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Aegukka ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Kim Jae-ryong ![]() |
Cylchfa amser | UTC+09:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | North Korean standard language, Coreeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 120,540 ±1 km² ![]() |
Gerllaw | Y Môr Melyn, Môr Japan ![]() |
Yn ffinio gyda | De Corea, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Cyfesurynnau | 40°N 127°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of North Korea ![]() |
Corff deddfwriaethol | Supreme People's Assembly ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Supreme Leader of North Korea ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Kim Jong-un ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of North Korea ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Kim Jae-ryong ![]() |
![]() | |
Arian | North Korean won ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.979 ![]() |
Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (gwrando). Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin gyda Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).
Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.
Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.[1][2]