Gwen o Dalgarth | |
---|---|
Ganwyd | 463, 5 g ![]() Penfro ![]() |
Bu farw | 18 Hydref 544 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Dydd gŵyl | 18 Hydref ![]() |
Tad | Brychan ![]() |
Plant | Caradog Freichfras ![]() |
Santes oedd Gwen o Dalgarth ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Etifeddodd Garth Madrun (Talgarth) gan ei mam-gu, Marchell. Priododd Llŷr Merini ac roedd yn fam i Garadog Freichfras.
Mae'n fwyaf nodedig am fyw bywyd Cristnogol ac am ei charedigrwydd.[2] Lladdwyd Gwen mewn ymosodiad gan lwyth paganaidd yn 492. Credir fod eglwys Talgarth yn sefyll ar y fan ble'i lladdwyd a gwnaethpwyd creirfa i'w chorff yno.