Gwener (planed)

Gwener
Enghraifft o'r canlynolplaned mewnol, planed israddol Edit this on Wikidata
Rhan oCysawd yr Haul mewnol Edit this on Wikidata
LleoliadCysawd yr Haul mewnol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysatmosffer Gwener Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear261,000,000 cilometr, 38,000,000 cilometr, 108,000,000 cilometr Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.00677672 Edit this on Wikidata
Radiws6,051.8 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y blaned Gwener yn ei lliwiau cywir
Llun radar o'r blaned Gwener
Gwener yn croesi o flaen yr haul; Mehefin 2012.

Gwener (symbol: ♀) yw'r ail blaned oddi wrth yr Haul, yng Nghysawd yr Haul. Mae ei bellter cyfartalog oddi wrth yr Haul tua 67,200,000 milltir ac mae wedi'i henwi ar ôl duwies cariad y Rhufeiniaid. Ar lafar, ei henw yw Seren y Gweithiwr, gan mai hi, fel arfer, sy'n ymddangos gyntaf yn y cyfnos. Dyma'r blaned agosaf i'r Ddaear, ac mae'n dod mor agos â 24 miliwn milltir i ffwrdd. Mae probau diweddar wedi darganfod bod wyneb y blaned wedi'i britho â chraterau a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.

Oherwydd ei chymylau trwchus, sy'n adlewyrchu'r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hyd yn oed cyn hwyred a'r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohoni, efallai, yn fforestydd tebyg i'r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio'r meusydd glo. Roedd posibiliadau o'r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron ffuglen wyddonol gan gynnwys Dan Dare a'r "Fenwsiaid" yn y comic The Eagle yn y 1950au. Ac yn ei stori fer enwog, The Illustrated Man, disgrifia Ray Bradbury helynt teithwyr gofod ar Gwener yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o'n rhannol gywir – mae hi yn bwrw'n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy'r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try'n ager ar uchder o tua 10 milltir. Fel y gwrthrych naturiol mwyaf disglair yn awyr nos y Ddaear ar ôl y Lleuad, gall Gwener daflu cysgodion a gellir ei gweld gyda'r llygad noeth yng ngolau dydd.[1][2] Mae orbit Venus yn llai nag un y Ddaear, ond ei ehangiad mwyaf yw 47°; felly mae'n hawdd ei gweld am ychydig oriau yn y cyfnos neu cyn codiad haul. Mae Gwener yn cylchdroi'r Haul bob 224.7 diwrnod y Ddaear. Mae ganddi hyd diwrnod synodig o 117 diwrnod y Ddaear a chyfnod cylchdroi sidereal o 243 diwrnod y Ddaear. O ganlyniad, mae'n cymryd mwy o amser i gylchdroi o amgylch ei hechelin nag unrhyw blaned arall yng Nghysawd yr Haul, ac mae'n gwneud hynny i gyfeiriad gwahanol i bob planed arall, heblaw am Wranws . Mae hyn yn golygu bod yr Haul yn codi o'i gorwel gorllewinol ac yn machlud yn ei dwyrain.[3] Yn debyg i blaned Mercher, nid oes gan Gwener unrhyw leuad.[4]

Rhaid oedd aros tan i chwiliedyddion Rwsiaidd, yng nghyfres "Venera" a "Vega", lanio ar Gwener rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Darganfuwyd bod Gwener yn llawer poethach na'r Ddaear achos bod ganddi gryf effaith tŷ gwydr. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy'r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i'r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd "cyfandir" o lif folcanig ar ôl Aphrodite, duwies cariad y Groegiaid; crater anferth ar ôl y gantores Billie Holiday ac ucheldir Lada ar ôl y dduwies Slafaidd (nid y car!). Mae yma gysylltiad Cymreig hefyd – ceir ucheldir "Guinevere", neu Gwenhwyfar ac enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd Albanaidd, James Clerk Maxwell. Ef, druan ohono, yw'r unig ddyn ar y blaned!

Gan fod Gwener yn nes at yr haul na'r Ddaear, fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb; hynny yw, mae ganddi ei Chynnydd a'i Gwendid. Mae'n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu delesgop.

Ar 14 Medi 2020 cyhoeddwyd bod tîm rhyngwladol o seryddwyr, o dan arweiniad yr Athro Jane Greaves o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd wedi darganfod moleciwlau ffosffin yng nghymylau Gwener. Ar y ddaear, mae ffosffin yn cael ei gynhyrchu mewn diwydiant neu gan ficrobau sy’n byw mewn amgylcheddau lle nad oes ocsigen. Gwnaed ymchwil i weld os oedd unrhyw ffyrdd posib eraill i gynhyrchu ffosffin ar Gwener ond ni ddarganfuwyd esboniad arall, er bod bylchau mawr yn ein dealltwriaeth o amgylchfyd y blaned. Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen llawer mwy o dystiolaeth er mwyn profi'r ddamcaniaeth bod bywyd yn bodoli ar y blaned.[5]

Y drydedd blaned leiaf yng Nghysawd yr Haul, mae Gwener yn blaned ddaearol ac fe'i gelwir weithiau'n "chwaer blaned" i'r Ddaear oherwydd eu maint tebyg, eu màs, eu hagosrwydd at yr Haul, a'u cyfansoddiad. Ond mae'n hollol wahanol i'r Ddaear mewn ffyrdd eraill: mae ganddi'r atmosffer dwysaf o'r pedair planed ddaearol, gyda dros 96% yn garbon deuocsid. Mae'r gwasgedd atmosfferig ar wyneb y blaned tua 92 gwaith pwysedd lefel y môr ar y Ddaear, hy pwysedd cyffelyb i fod tua 900 metr o dan y dŵr. Er bod Mercher yn nes at yr Haul, gan Gwener mae'r arwyneb poethaf o unrhyw blaned yng Nghysawd yr Haul, gyda thymheredd cymedrig o 464 gradd Canradd. Uwch ei hwyneb ceir haenau trwchus o gymylau adlewyrchol iawn o asid sylffwrig, sy'n atal ei hwyneb rhag cael ei weld o'r Ddaear. Mae'n eitha tebyg fod arni gefnforoedd yn y gorffennol,[6][7] ond ar ôl i'r dŵr anweddu cododd y tymheredd oherwydd effaith tŷ gwydr.[8] Mae'n debyg bod y dŵr wedi anweddu a gwahanu, gyda'r hydrogen rhydd wedi ei ysgubo i'r gofod rhyngblanedol gan y gwynt solar oherwydd diffyg maes magnetig planedol.[9] Oherwydd yr amodau angheuol ar ei hwyneb, weithiau cyfeirir at y blaned fel "efaill drwg" y Ddaear.[10]

Fel un o'r gwrthrychau disgleiriaf yn yr awyr, ystyriwyd Gwener yn nodwedd bwysig mewn llawer diwylliant ers cynhanes. Fe'i gwnaed yn gysegredig ac yn brif ysbrydoliaeth i awduron a beirdd fel "seren y bore" a "seren yr hwyr". Gwener oedd y blaned gyntaf y mapiwyd ei symudiad ar draws yr awyr, a hynny mor gynnar â'r ail fileniwm CC.[11]

Mae ei agosrwydd at y Ddaear wedi gwneud Gwener yn brif darged ar gyfer archwilio rhyngblanedol cynnar. Hon oedd y blaned gyntaf y tu hwnt i'r Ddaear yr ymwelodd llong ofod â hi (Venera 1 ym 1961) a'r gyntaf i gael roced yn glanio'n llwyddiannus arni (Venera 7 yn 1970). Gan fod cymylau trwchus y blaned yn gwneud arsylwi ei harwyneb yn amhosibl yn y sbectrwm gweladwy, ni chafwyd mapiau manwl nes dyfodiad orbiter Magellan ym 1991. Mae cynlluniau wedi'u cynnig ar gyfer crwydro neu deithiau mwy cymhleth, ond ei hwyneb gelyniaethus yn creu llawer o broblemau ymarferol. Mae'r posibilrwydd o fywyd ar Venus wedi bod yn destun dyfalu ers tro yn enwedig yn y 2000-20au.

  1. Lawrence, Pete (2005). "In Search of the Venusian Shadow". Digitalsky.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 June 2012. Cyrchwyd 13 June 2012.
  2. Walker, John. "Viewing Venus in Broad Daylight". Fourmilab Switzerland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2017. Cyrchwyd 19 April 2017.
  3. Castro, Joseph (3 February 2015). "What Would It Be Like to Live on Venus?". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 March 2018. Cyrchwyd 15 March 2018.
  4. "Moons". NASA Solar System Exploration. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2019. Cyrchwyd 2019-08-26.
  5. https://golwg.360.cymru/newyddion/2013129-awgrymiadau-bywyd-blaned-gwener , Golwg360, 14 Medi 2020.
  6. Hashimoto, George L.; Roos-Serote, Maarten; Sugita, Seiji; Gilmore, Martha S.; Kamp, Lucas W.; Carlson, Robert W.; Baines, Kevin H. (31 December 2008). "Felsic highland crust on Venus suggested by Galileo Near-Infrared Mapping Spectrometer data". Journal of Geophysical Research: Planets (Advancing Earth and Space Science) 113 (E5). arXiv:2. Bibcode 2008JGRE..113.0B24H. doi:10.1029/2008JE003134.
  7. Shiga, David (10 October 2007). "Did Venus's ancient oceans incubate life?". New Scientist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 March 2009. Cyrchwyd 17 September 2017.
  8. Jakosky, Bruce M. (1999). "Atmospheres of the Terrestrial Planets". In Beatty, J. Kelly; Petersen, Carolyn Collins; Chaikin, Andrew (gol.). The New Solar System (arg. 4th). Boston: Sky Publishing. tt. 175–200. ISBN 978-0-933346-86-4. OCLC 39464951.
  9. "Caught in the wind from the Sun". European Space Agency. 28 November 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2011. Cyrchwyd 12 July 2008.
  10. Greenfieldboyce, Nell (June 2, 2021). "NASA Picks Twin Missions To Visit Venus, Earth's 'Evil Twin'". NPR. Cyrchwyd 2022-04-15.
  11. Evans, James (1998). The History and Practice of Ancient Astronomy. Oxford University Press. tt. 296–7. ISBN 978-0-19-509539-5. Cyrchwyd 4 February 2008.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne