Gweriniaethau Rwsia

Unedau ymreolaethol o fewn Rwsia yw gweriniaethau Rwsia. Rhennir Ffederasiwn Rwsia yn 83 deiliad ffederal, gyda 21 ohonyn nhw yn weriniaethau ymreolaethol. O fewn y ffederasiwn mae'r gweriniaethau hyn yn cynrychioli ardaloedd gyda phoblogaethau nad ydynt o ethnigrwydd Rwsiaidd. Enwir y gweriniaethau ar ôl y grwpiau ethnig brodorol hynny. Fodd bynnag, oherwydd mewnfudo mewnol dros gyfnodau amrywiol, nid yw'r grwpiau ethnig hyn bellach o reidrwydd yn fwyafrifoedd yn y gweriniaethau erbyn hyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne