Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd

Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd
Enghraifft o'r canlynolGwrthdaro ethnig, international conflict Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Mai 1948 Edit this on Wikidata
LleoliadY Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, Gwrthdaro Israel-Libanus, y Rhyfel Athreuliol, Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, Argyfwng Suez, Rhyfel Chwe Diwrnod, Rhyfel Yom Kippur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd: Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd
Map o raniad y tiriogaethau, fel a basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 1947.

Mae Israel a llawer o'i chymdogion Arabaidd wedi bod mewn gwrthdaro milwrol, a elwir yn Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd (Arabeg: الصراع العربي الإسرائيليAl-Sira'a Al'Arabi A'Israili; Hebraeg: הסכסוך הישראלי-ערבי Ha'Sikhsukh Ha'Yisraeli-Aravi) ers blynyddoedd. Tua diwedd y 19g gwelwyd cynnydd mewn Seioniaeth sef dymuniad i'r Iddewon gael tiriogaeth a gwladwriaeth iddynt ei hunain a chynnydd mewn cenedlaetholdeb Arabaidd. Mae'r tiriogaeth a hawlir gan yr Iddewon hefyd yn cael ei hawlio gan Arabiaid ledled y byd fel tiriogaeth Palesteiniaid,[1] ac fel tir Islamaidd. Cychwynodd y gwrthdaro rhwng Iddewon ac Arabiaid yn gynnar yn y 20g gan ddod i'w anterth yn y 'Rhyfel am Balesteina' (1947–48) a ddatblygodd yn 'Rhyfel Cyntaf rhwng Arabiaid–Israeliaid' ym Mai 1948 pan gyhoeddodd Israel eu 'Datganiad o Annibyniaeth Israel'.

Ymhlith y rhyfeloedd, y gwrthdaro a'r ymgyrchoedd mae'r canlynol:

Gwaethygodd y gwrthdaro o fewn tiriogaeth Mandad Prydain rhwng Iddewon Palestina ac Arabiaid a drodd yn rhyfel ar raddfa lawn ym 1947. Gan gymryd ochr yr Arabiaid Palestina, yn enwedig yn dilyn Datganiad Annibyniaeth Israel, goresgynnodd y gwledydd Arabaidd cyfagos yr hen diriogaeth Mandad Prydain ym Mai 1948, gan ddechrau'r Rhyfel Arabaidd-Israel Cyntaf. Daeth gwrthdaro mawr i ben, yn bennaf gyda chytundebau cadoediad yn dilyn Rhyfel Yom Kippur 1973. Llofnodwyd cytundebau heddwch rhwng Israel a'r Aifft ym 1979, gan arwain at dynnu Israel yn ôl o Benrhyn Sinai a diddymu'r system llywodraethu milwrol yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza, o blaid Gweinyddiaeth Sifil Israel ac o ganlyniad gosodwyd anecsiad unochrog (unilateral annexation) o'r Golan Heights a Dwyrain Jerwsalem yn eu lle.

Mae natur y gwrthdaro wedi newid dros y blynyddoedd o'r gwrthdaro rhanbarthol, Cenhedloedd Arabaidd yn erbyn Israel i wrthdaro Israel yn erbyn Palesteina, gwrthdaro mwy lleol, a gyrhaeddodd uchafbwynt yn ystod Rhyfel Libanus 1982 pan ymyrrodd Israel yn Rhyfel Cartref Libanus i gael gwared ar y PLO o Libanus. Erbyn 1983, daeth Israel i delerau da gyda llywodraeth (Americanaidd) Libanus a ddominyddwyd gan Gristnogion, ond dirymwyd y cytundeb y flwyddyn ddilynnol gyda meddiannu milisia Mwslimaidd a Druze o Beirut. Gyda dirywiad Intifada Palesteina Cyntaf 1987–1993, arweiniodd yr Oslo Accords dros dro at greu Awdurdod Cenedlaethol Palestina ym 1994, o fewn y cyd-destun eang o broses heddwch Israel-Palestina. Yr un flwyddyn, fe gyrhaeddodd Israel a Gwlad yr Iorddonen gytundeb heddwch. Yn 2002, fel rhan o ddatrys gwrthdaro Palestina-Israel yn y Fenter Heddwch Arabaidd, cynigiodd y Gynghrair Arabaidd eu bont yn cydnabod Israel yn wlad sofran.[2] Mae'r fenter, sydd wedi'i hail-gadarnhau ers hynny, yn galw am normaleiddio'r berthynas rhwng y Gynghrair Arabaidd ac Israel, yn gyfnewid am i Israel dynnu'n ôl yn llawn o'r tiriogaethau dan feddiant (gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem) a setlo'r broblem ffoaduriaid Palestina yn seiliedig ar Penderfyniad 194 gan y Cenhedloedd Unedig. Yn y 1990au a dechrau'r 2000au, roedd cadoediad wedi'i gynnal i raddau helaeth rhwng Israel a Syria Baathistaidd, yn ogystal â gyda Libanus. Er gwaethaf y cytundebau heddwch gyda'r Aifft a Gwlad yr Iorddonen, yr heddwch gydag Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a'r cadoediad cyffredinol, tan ganol y 2010au roedd y Gynghrair Arabaidd ac Israel wedi bod ben-ben a'i gilydd mewn dadleon di-ri. Ymhlith clochyddion Irac a Syria yw'r unig gwledydd Arabaidd nad ydyn nhw wedi cyrraedd unrhyw gytundeb heddwch ffurfiol na chytundeb o fath yn y byd gydag Israel, gyda'r ddau cefnogi Iran.

Fe wnaeth datblygiadau yn ystod Rhyfel Cartref Syria ail-lunio'r sefyllfa ger ffin ogleddol Israel, gan roi Gweriniaeth Arabaidd Syria, Hezbollah a gwrthblaid Syria benben a'i gilydd a chymhlethu eu perthynas ag Israel. Rhoddir y bai am y gwrthdaro rhwng Israel a Hamas, gan rai, hefyd ar y gwrthdaro rhwng Israel ag Iran.

Erbyn 2017, ffurfiodd sawl gwladwriaeth Arabaidd Sunni dan arweiniad Saudi Arabia ag Israel glymblaid lled-swyddogol i wynebu Iran. Nododd rhai fod y cytundeb yma'n ddechrau diwedd y gwrthdaro Arabaidd-Israel.[3]

  1. "The Palestinian National Charter – Article 6". Mfa.gov.il. Cyrchwyd 2013-01-19.
  2. Scott MacLeod (8 Ionawr 2009). "Time to Test the Arab Peace Offer". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ionawr 2009.
  3. [1]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne