Ioga

Ioga
MathYmarfer corff, Ymarfer ysbrydol, therapi corff-a-meddwl Edit this on Wikidata
GwladIndia Edit this on Wikidata
Rhan oetifeddiaeth ddiwylliannol na ellir ei chyffwrdd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysasana, Pranayama, myfyrdod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun o Shiva yn perfformio myfyrdod iogig yn yr ymddaliad Padmasana.

Disgyblaethau traddodial meddyliol a chorfforol sy'n tarddu o India yw ioga[1] (Sansgrit, Pāli: योग yóga).[2][3] Mae ioga hefyd yn un o chwe ysgol uniongred (āstika) athroniaeth Hindŵ, ac at y nod mae'r ygol hwnnw yn anelu ati.[4][5] Mae hefyd yn cyfeirio at y swm o'r holl weithgareddau meddyliol, llafar a chorfforol yn Jainiaeth.

Gelwir gwahanol safleoedd neu siap y corff yn asana a cheir rhai cannoedd ohonynt.

Mae prif ganghennau ioga yn athroniaeth Hindŵ yn cynnwys Ioga Rāja, Ioga Karma, Ioga Jnana, Ioga Bhakti, a Ioga Hatha.[6][7][8] Caiff Ioga Raja ei grynhoi yn Swtrâu Ioga Patanjali, ac adnabyddir yn syml fel Ioga yng nghyd-destun athroniaeth Hindŵ, ac mae'n ran o draddodiad Samkhya[4] Mae nifer o destunau Hindŵ yn trafod agweddau o ioga, gan gynnwys Upanishadau, y Bhagavad Gita, y Pradipika Ioga Hatha, y Shiva Samhita ac amryw o dantrâu.

Mae gan y gair Sansgrit "ioga" sawl ystyr,[9] ac mae'n tarddu o'r gwraidd Sansgrit yuj, sy'n golygu "i reoli", "i ieuo" neu "i uno".[10] Mae cyfeiithiadau'n cynnwyr "ymuno", "cyfuno", "undeb", "cysylltair", a "modd".[9] Yn gyffredinol tu allan i India, mae'r term ioga yn cael ei gysylltu â Ioga Hatha a'i asanas (ymddaliadau) neu fel ffurf o ymarfer corff. Gelwir un sy'n ymarfer ioga neu'n dilyn athroniaeth ioga yn iogi.[11][12]

Nid oes consensws ar gronoleg na gwreiddiau ioga heblaw ei fod wedi datblygu yn yr India hynafol. Mae dwy ddamcaniaeth eang yn egluro gwreiddiau ioga. Yn gyntaf, mae'r model llinellol yn dadlau bod gan ioga darddiad Aryan, fel yr adlewyrchir yn y corpws testunol Vedig, ac a ddylanwadodd ar Fwdhaeth. Cefnogir y model hwn yn bennaf gan ysgolheigion Hindŵaidd.[13] Mae'r model hwn yn cael ei ffafrio gan ysgolheictod dwyreiniol. Yr ail ddamcaniaeth yw bod ioga'n synthesis o arferion cynhenid, nad ydynt yn Aryan gydag elfennau Aryan. Mae'r model hwn yn cael ei ffafrio gan ysgolheictod y gorllewin.[13]

Cyfansoddwyd yr Upanishad, ar ddiwedd y cyfnod Vedic, ac mae nhw'n cynnwys y cyfeiriadau cyntaf at arferion y gellir eu hadnabod fel ioga clasurol.[14] Mae ymddangosiad cyntaf y gair "ioga", gyda'r un ystyr â'r term modern, yn y Katha Upanishad,[15][16] a gyfansoddwyd yn ôl pob tebyg rhwng y 5g a'r 3g CC,[17][18] lle caiff ei ddiffinio fel rheolaeth gyson ar y synhwyrau, ac atal gweithgaredd meddyliol, s'n arwain at gyflwr uwchnaturiol.[16][20] Mae'n diffinio lefelau amrywiol o fodolaeth (neu gyflwr). Felly mae yoga yn cael ei ystyried yn broses o fewnoli neu o esgyniad.[21][22] Dyma'r gwaith llenyddol cynharaf sy'n tynnu sylw at hanfodion ioga.

Mae'r term "yoga" yn y byd Gorllewinol yn aml yn dynodi ffurf fodern o hatha ioga a thechneg ffitrwydd corfforol, lleddfu straen ac ymlacio ar sail osgo'r corff,[23] sy'n cynnwys yr asanas yn bennaf [24] mewn cyferbyniad ag ioga traddodiadol, sy'n canolbwyntio ar fyfyrio ac ymneilltuo o bethau bydol.[23][25] Fe’i cyflwynwyd gan gwrws o India, yn dilyn llwyddiant addasiad Vivekananda o ioga heb asanas ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g,[26] a gyflwynodd Ioga Swtra i’r Gorllewin. Enillodd yr Ioga Swtra amlygrwydd yn yr 20g yn dilyn llwyddiant Ioga hatha.[27]

Mae dosbarthu asanas i grwpiau cyffredinol yn newid o ysgol i ysgol, ond, yn fras, mae'r canlynol yn eitha cyffredin:

  1. Asanas sefyll
  2. Asanas eistedd
  3. Asanas penlinio
  4. Asanas lledorwedd
  5. Asanas tro
  6. Asanas gwrthdro (Inverted asanas)
  7. Asanas ymlaciol

Rhaid cofio fod ambell asana'n perthyn i fwy nag un grwp. Ceir hefyd grwp o asanas a ddefnyddir i fyfyrio.

  1. Geiriadur yr Academi, [yoga].
  2. Stuart Ray Sarbacker, Samadhi: The Numinous and Cessative in Indo-Tibetan Yoga. SUNY Press, 2005, tud. 1-2
  3. Tattvarthasutra [6.1], gweler Manu Doshi (2007) Cyfieithiad o'r Tattvarthasutra, Ahmedabad: Shrut Ratnakar tud. 102
  4. 4.0 4.1 Jacobsen, Knut A. (gol.); Larson, Gerald James (gol.) (2005). Theory And Practice of Yoga: Essays in Honour of Gerald James Larson, Brill Academic Publishers. ISBN 90-04-14757-8. (Studies in the History of Religions, 110)
  5. Diffiniad Monier-Williams o ioga."
  6. Pandit Usharbudh Arya (1985). The philosophy of hatha yoga. Himalayan Institute Press; 2il argraffiad
  7. Sri Swami Rama (2008) The royal path: Practical lessons on yoga. Himalayan Institute Press; Argraffiad newydd
  8. Swami Prabhavananda (cyfieithydd), Christopher Isherwood (cyfieithydd), Patanjali (awdur). (1996). Vedanta Press; How to know god: The yoga aphorisms of Patanjali. Argraffiad newydd
  9. 9.0 9.1 Apte, Vaman Shivram (1965). The Practical Sanskrit Dictionary. Delhi: Motilal Banarsidass Publishers. ISBN 81-208-0567-4
  10. Gavin Flood (1996)
  11. Geiriadur yr Academi, [yogi].
  12. American Heritage Dictionary: "Yogi, One who practices yoga." Websters: "Yogi, A follower of the yoga philosophy; an ascetic."
  13. 13.0 13.1 Crangle 1994, t. 1-2.
  14. Bryant 2009.
  15. Singleton 2010.
  16. 16.0 16.1 Flood 1996.
  17. Stephen Phillips (2009). Yoga, Karma, and Rebirth: A Brief History and Philosophy. Columbia University Press. tt. 28–30. ISBN 978-0-231-14485-8.
  18. Patrick Olivelle (1998). The Early Upanishads: Annotated Text and Translation. Oxford University Press. tt. 12–13. ISBN 978-0-19-512435-4.
  19. "Vedanta and Buddhism, A Comparative Study". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2013. Cyrchwyd 29 Awst 2012.
  20. For the date of this Upanishad see also Helmuth von Glasenapp, from the 1950 Proceedings of the "Akademie der Wissenschaften und Literatur"[19]
  21. Whicher 1998.
  22. Jacobsen 2011.
  23. 23.0 23.1 Burley 2000.
  24. "Yoga Landed in the U.S. Way Earlier Than You'd Think—And Fitness Was Not the Point". HISTORY. Cyrchwyd 14 Mehefin 2021.
  25. Marek Jantos (2012), in Oxford Textbook of Spirituality in Healthcare (Editors: Mark Cobb et al.), Oxford University Press, ISBN 978-0-19-957139-0, pages 362–363
  26. White 2011.
  27. White 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne