Lefelau dadansoddi

Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaeth cysylltiadau rhyngwladol safbwyntiau i drefnu ymchwil a dadansoddiad o'u cwmpas yw lefelau dadansoddi. Yn gyffredinol, ystyrid bod yna tair lefel dadansoddi: yr unigolyn neu'r lefel iswladwriaethol, y wladwriaeth, a'r system ryngwladol.

Cyflwynwyd y cysyniad gan Kenneth Waltz ym 1959 yn ei lyfr Man, the State and War, a bathwyd y term "lefel dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn World Politics yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo anllywodraeth yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne