![]() Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ger Llan-ffwyst | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8°N 3°W ![]() |
Cod SYG | W04000787 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Davies (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llan-ffwyst Fawr (Saesneg: Llanfoist Fawr). Saif i'r de-orllewin o'r Fenni yng ngogledd-orllewin y sir. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhedeg trwy'r gymuned a cheir cei ar ei glan. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gofilon, Llanwenarth, Llanelen a Llan-ffwyst ei hun.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[2]