Llandeilo Ferwallt

Llandeilo Ferwallt
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,251 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd596.65 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.575°N 4.051°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000957 Edit this on Wikidata
Cod OSSS5888 Edit this on Wikidata
Cod postSA3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRebecca Evans (Llafur)
AS/auTonia Antoniazzi (Llafur)
Map

Pentref a chymuned tua 5 milltir i'r de-orllewin o Abertawe ar benrhyn Gŵyr yw Llandeilo Ferwallt ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Bishopston). Mae'r Mwmbwls yn gorwedd dwy filltir i'r dwyrain. Llandeilo yw un o'r pentrefi mwyaf ar benrhyn Gŵyr. Mae ganddo ei glwb rygbi ei hun, South Gower RFC, a'i ysgol gyfun, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

I ddechrau, cyfuniad o 'Llan' a Merwall oedd yr enw, ac fe dyfodd 't' yn raddol ar ddiwedd yr enw personol. Pan fu anghytuno rhwng Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Tyddewi ynglŷn â'r ffiniau rhyngddynt rhoddwyd yr enw Teilo i mewn i'r enw ar ôl ailgysegru'r eglwys leol i Sant Teilo, gan ei fod yn nawddsant Esgobaeth Llandaf, er mwyn tanlinellu ei bod yn perthyn i'r esgobaeth honno.

Ceir sawl traeth lleol fel Brandy Cove, Bae Caswel a Pwll Du (gweler y llun).

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne