Llanisien

Llanisien
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.529°N 3.189°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000999 Edit this on Wikidata
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Fynwy, gweler Llanisien, Sir Fynwy.

Cymuned ar gyrion Caerdydd yw Llanisien (ffurf Seisnigaidd, Llanishen). Ei nawddsant yw Isan.

Bu'n gartref i Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1987 daeth y ffatri yn Sefydliad Arfau Atomig yn swyddogol, ond roedd grwpiau heddwch fel CND Cymru eisoes yn ymwybodol fod gwaith ymchwil o'r fath yn digwydd yno a gwelwyd sawl protest mawr yno yn y 1980au. Caewyd y sefydliad yn Chwefror 1997 ac mae stadau tai wedi'u codi yno ers hynny.

Mae Parc Tŷ Glas yn gartref i swyddfeydd S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ceir un o ganolfannau mawr yr Adran Trethi yno hefyd, sy'n rhan o ystad o swyddfeydd y llywodraeth ganolog.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne