Llofnaid

Maria Paseka, Pencampwriaeth Gymnasteg Artistig Ewrop, 2015

Mae'r llofnaid (Saesneg: vault) yn gamp gymnasteg cystadleuol. Er mwyn cyflawni'r gamp rhaid defnyddio'r ceffyl llofnaid sef y cyfarpar gymnasteg a ddefnyddir mewn gymnasteg artistig. Mae'r term hefyd yn gysylltiedig â'r un ymarfer corff, naid, tra mai'r gwrthrych ei hun yw'r ebol neu'r ceffyl neu'n fwy diweddar y bwrdd.

Ceir cystadlaethau llofnaid yng nghategori dynion a menywod ac mae'n ymarfer byr ond pwerus iawn sydd wedi'i rannu'n ddau gam a ddiffinnir fel hediadau cyntaf ac ail.

Daw'r gair Cymraeg "llofnaid" o lawf + naid (sef, "llaw" + "naid"). Esblygodd llawf yn llof, ac yna'r llaw modern.[1]

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne