Mamma Mia! The Movie

Mamma Mia! The Movie

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Phyllida Lloyd
Cynhyrchydd Judy Craymer
Catherine Johnson
Uwch Gyfarwyddwyr
Benny Andersson
Björn Ulvaeus
Rita Wilson
Tom Hanks
Phyllida Lloyd
Ysgrifennwr Catherine Johnson
Serennu Meryl Streep
Amanda Seyfried
Pierce Brosnan
Colin Firth
Stellan Skarsgård
Dominic Cooper
Julie Walters
Christine Baranski
Cerddoriaeth Benny Andersson
Björn Ulvaeus
Stig Anderson
Sinematograffeg Haris Zambarloukos
Golygydd Lesley Walker
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Studios
Dyddiad rhyddhau 10 Gorffennaf, 2008
Amser rhedeg 108 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Y Deyrnas Unedig
Yr Almaen
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Mamma Mia! The Movie ("Mamma Mia! Y Ffilm") yn addasiad llwyfan-i-ffilm o'r sioe gerdd yn y West End o'r enw Mamma Mia! (1999). Mae'r sioe yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop hynod lwyddiannus ABBA gyda'r gerddoriaeth ychwanegol wedi'u gyfansoddi gan Benny Andersson a oedd yn aelod o ABBA. Gwnaeth y ffilm yn arbennig o dda yn y sinemau a chafodd y penwythnos fwyaf erioed am ffilm gerddorol yn hanes yr Unol Daleithiau. Fel y sioe gerdd, tarddia deitl y ffilm o gân boblogaidd ABBA o 1975 Mamma Mia. Rhyddhawyd y ffilm gan Universal Studios mewn partneriaeth â Playtone a Littlestar.[1] Cafodd y ffilm ei rhyddhau ar y 3ydd o Orffennaf 2008 yng Ngwlad Groeg, ar y 10fed o Orffennaf 2008 yn Awstralia, Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig, ar y 11eg o Orffennaf 2008 yn Sweden, ar y 16eg o Orffennaf 2008 yn y Philippines, ar y 18fed o Orffennaf 2008 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, ar 10fed o Fedi yn Ffrainc, ar y 24ain o Orffennaf 2008 ac ar y 3ydd o Hydref 2008 yn yr Eidal.[2]

Arweinia Meryl Streep cast y ffilm wrth iddi chwarae rhan mam sengl o'r enw Donna Sheridan. Mae Pierce Brosnan, Colin Firth, a Stellan Skarsgård yn chwarae rhan tri tad posib i ferch Donna, (Amanda Seyfried).

Ar y 29ain o Awst 2008 rhyddhawyd Mamma Mia!: The Sing-Along Edition, gyda'r geiriau i'r holl ganeuon wedi'u uwch-oleuo ar y sgrîn mewn rhai theatrau.[3]

  1. Cwmnïau'n ymwneud â'r ffilm - www.IMDB.com
  2. Dyddiadau Rhyddhau'r ffilm
  3. Rhyddau Mamma Mia!: The Sing-Along Edition

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne