Manceinion Fwyaf

Manceinion Fwyaf
Mathsiroedd seremonïol Lloegr, sir fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd-orllewin Lloegr
Poblogaeth2,867,800 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrew Burnham Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPeine Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,275.9821 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Derby, Gorllewin Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.5025°N 2.31°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE11000001 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Greater Manchester Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrew Burnham Edit this on Wikidata
Map

Sir fetropolitan a sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf (hefyd Manceinion Fawr) (Saesneg: Greater Manchester).

Roedd Manceinion Fwyaf yn un o chwe sir fetropolitan a grëwyd yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rhennir yr holl siroedd hyn yn fwrdeistrefi metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.

Fe'i dynodwyd yn ddinas-ranbarth ar 1 Ebrill 2011.

Mae Manceinion Fwyaf yn cwmpasu un o'r ardaloedd metropolitan mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddinas Manceinion ei hun. Fe'i ffurfiwyd o rannau o siroedd hanesyddol Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Swydd Efrog. Mae'n cynnwys deg bwrdeistref fetropolitan: Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan, a dinasoedd Manceinion a Salford.

Mae gan y sir arwynebedd o 1,276 km², gyda 2,812,569 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1]

Lleoliad Manceinion Fwyaf yn Lloegr
  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne