![]() | |
Math | mynydd, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Italy–Switzerland border ![]() |
Sir | Valais, Valle d'Aosta ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Uwch y môr | 4,478 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 45.9764°N 7.6586°E ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 1,043 metr ![]() |
Rhiant gopa | Weisshorn ![]() |
Cadwyn fynydd | Pennine Alps ![]() |
![]() | |
Deunydd | craig fetamorffig ![]() |
Mynydd 4,478 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Matterhorn (Almaeneg: Matterhorn, Eidaleg: Cervino). Saif ar y ffîn rhwng y Swistir a'r Eidal, uwchben Zermatt yn y Swistir a Breuil-Cervinia yn yr Eidal.
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 14 Gorffennaf, 1865, gan Edward Whymper, Charles Hudson, Yr Arglwydd Francis Douglas, Douglas Robert Hadow, Michel Croz a'r ddau Peter Taugwalder, tad a mab, ar hyd crib Hörnli ar yr ochr Swisaidd. Lladdwyd Hadow, Croz, Hudson a Douglas ar y ffordd i lawr o'r copa.
Ar hyd crib Hörnli yw'r ffordd arferol o ddringo'r mynydd. Cafodd nifer o fynyddoedd eraill ar draws y byd y llysenw "Matterhorn" am fod yn ffurf yn debyg; weithiau gelwir Cnicht yn "Matterhorn Cymru".