Modron

Am y pentref yng Nghernyw, gweler Modron (Cernyw).
Cerflun o'r dduwies Modron a ddarganfuwyd yng Ngâl.

Cymeriad mewn chwedloniaeth Gymreig yw Modron. Ymddengys fel mam Mabon fab Modron yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Cipiwyd Mabon oddi wrthi pan oedd yn dri diwrnod oed, ac ni wyddai neb ymhle yr oedd. Yn ôl un traddodiad, Afallach oedd ei dad. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf.

Mae Modron hefyd yn ymddangos mewn hen chwedl werin a gysylltir a Llanferres, yn awr yn Sir Ddinbych. Gerllaw Llanferres roedd rhyd a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa, Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne