Morgan John Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1760 Llanbradach |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1804 Somerset |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gweinidog yr Efengyl, cyhoeddwr |
Plant | Elizabeth Jones Murray |
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd Morgan John Rhys, neu Rhees (8 Rhagfyr 1760 – 7 Rhagfyr 1804). Roedd hefyd yn bropagandydd enwog dros ryddid, gan groesawu'r Chwyldro Ffrengig, ac yr oedd yn pregethu yn erbyn caethwasiaeth. Cafodd ei eni yn Llanbradach, Caerffili.
Yn 1794 ymfudodd i America wedi cael ei siomi gan yr ymateb i radicaliaeth Prydain. Roedd mewn perygl o gael ei arestio am ei feirniadaeth ar y llywodraeth yn ei erthyglau yn Y Cylchgrawn Cynmraeg [sic], y cyfnodolyn a ddechreuodd yn Nhrefeca yn yr un flwyddyn.
Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu gwladfa Gymreig yng ngorllewin Pennsylvania. Rhoddodd yr enw 'Cambria' ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, The Western Sky. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r brodorion Americanaidd.