Muhammad

Muhammad
Ganwyd20 Ebrill 571 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 632 Edit this on Wikidata
Medina Edit this on Wikidata
Man preswylMecca, Medina Edit this on Wikidata
Galwedigaethheusor, traddodwr, masnachwr, proffwyd, pregethwr, gwleidydd, arweinydd milwrol Edit this on Wikidata
TadAbdullah Ibn Abdul-Muttalib Edit this on Wikidata
MamAminah Edit this on Wikidata
PriodKhadija bint Khuwaylid, Sawda bint Zamʿa, Hafsa bint Umar ibn Al-Khattab, Juwayriyya bint al-Harith, Aisha, Zaynab bint Jahsh, Safiyya bint Huyayy, Zaynab bint Khuzayma, Umm Salama, Ramla bint Abi Sufyan, Rayhana bint Zayd ibn ʿAmr, Maria al-Qibtiyya, Maymunah bint al-Harith Edit this on Wikidata
PlantAbd-Allah Ibn Muhammad, Qasim Ibn Muhammad, Ibrahim Ibn Muhammad, Zainab Bint Muhammad, Ruqayya Bint Muhammad, Umm Kulthum Bint Muhammad, Fatima Edit this on Wikidata
PerthnasauAli ibn Abi Talib, Halimah bint Abi Dhuayb, Hamza ibn ‘Abd al-Muttalib, Abu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib, Abd Al-Muttalib, Hassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Zaynab bint Ali, Abbas ibn Abd al-Muttalib, Abū Lahab, Safiyyah bint ‘Abd al-Muttalib, Harith ibn ‘Abd al-Muttalib, Az-Zubayr ibn ‘Abd al-Muttalib, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib Edit this on Wikidata
LlinachBanu Hashim Edit this on Wikidata

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed sef مُحَمَّد ٱبن عَبْد ٱللَّٰه mewn Arabeg (570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh, a bu farw ym Medina (yn Sawdi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.

Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.

Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632, cafodd y ddysgeidiaeth a ddatguddiwyd iddo ei threfnu i ffurfio'r Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid. Mae Mwslemiaid yn credu, fodd bynnag, fod y Coran yn llyfr tragwyddol sy'n air Allah ei hun ac ei drosglwyddo i'r ddynoliaeth a wnaeth Muhammad; ni fyddai Mwlemiaid fyth yn cyfeirio at Fuhammad fel "awdur" y Coran, gan ystyried fod hynny'n gabledd.

Fe'i dilynwyd fel arweinydd y Mwslemiaid gan Abu Bakr, a ystyrir fel y Califf cyntaf. Ychydig iawn o ddilynwyr oedd gan Muhammad i ddechrau, a chawsant eu dirmygu gan amldduwiaid Mecca am 13 mlynedd. Er mwyn dianc rhag erledigaeth barhaus, anfonodd Muhammad rhai o'i ddilynwyr i Abyssinia yn 615, cyn iddo ef a'i ddilynwyr ymfudo o Mecca i Medina (a elwid bryd hynny'n Yathrib) yn ddiweddarach yn 622. Mae'r digwyddiad hwn, yr Hijra, yn nodi dechrau'r calendr Islamaidd, a elwir hefyd yn Galendr Hijri. Ym Medina, unodd Muhammad y llwythau o dan Gyfansoddiad Medina. Yn Rhagfyr 629, ar ôl wyth mlynedd o ymladd ysbeidiol â llwythau Mecca, casglodd Muhammad fyddin o 10,000 o dröedigion Fwslimaidd a gorymdeithio ar ddinas Mecca . Aeth y goncwest yn ddiwrthwynebiad i raddau helaeth a chipiodd Muhammad y ddinas heb fawr o dywallt gwaed. Yn 632, ychydig fisoedd wedi dychwelyd o Bererindod y Ffarwelio, aeth yn wael a bu farw. Erbyn ei farwolaeth, roedd y rhan fwyaf o Benrhyn Arabia wedi trosi i Islam.[1][2]

Mae'r datguddiadau (a elwir pob un yn Ayah – yn llythrennol, "Arwydd [o Dduw]") yr adroddodd Muhammad ei fod wedi eu derbyn gair am air gan Dduw, hyd at ei farwolaeth, yn ffurfio adnodau'r Quran; ar y rhain, yr Ayah, y mae'r grefydd wedi'i seilio. Heblaw am y Qur'an, mae dysgeidiaeth ac arferion Muhammad (sunnah), a geir yn llenyddiaeth Hadith a sira (bywgraffiad), hefyd yn cael eu cynnal a'u defnyddio fel ffynonellau cyfraith Islamaidd (gweler Sharia).

Muhammad yn pregethu - llun anghyffredin o'r 17g (copi o lun cynharach) o Bersia neu Ganolbarth Asia sy'n dangos wyneb y Proffwyd, yn groes i'r arfer Islamaidd

.

  1. "Muhammad", Encyclopedia of Islam and the Muslim world
  2. See:

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne