Mwriaid

Y Farchnad Fwraidd gan Rudolf Ernst. Mae'r paentiad dwyreinaidd hwn yn darlunio bywyd pob dydd y Mwriaid yn Al-Andalus.

Pobl Fwslimaidd oedd yn byw ym Moroco, Penrhyn Iberia, a mannau eraill yng Ngogledd Affrica a'r Môr Canoldir yn yr Oesoedd Canol oedd y Mwriaid (ffurf unigol: Mŵr).[1] Tarddodd o'r Arabiaid, Sbaenwyr a Berberiaid a sefydlodd y gwareiddiad Al-Andalus ym Mhenrhyn Iberia. Defnyddir y term "Mwraidd" i ddisgrifio cymdeithas a diwylliant Al-Andalus. Nid yw'r enw yn cyfeirio at grŵp ethnig benodol, gan ei bod yn cynnwys yr Ewropeaid a drodd yn Fwslimiaid yn ogystal â'r Arabiaid, Berberiaid ac Affricanwyr cymysg, ond hyd at yr 17g defnyddiwyd "Mŵr" i ddisgrifio dynion croenddu neu felynddu, er enghraifft y prif gymeriad yn y ddrama Othello gan Shakespeare.[2]

Daw'r enw o'r Lladin Maurus, a ddefnyddiwyd gyntaf gan y Rhufeiniaid i ddisgrifio trigolion nomadaidd y dalaith Mauretania, sydd heddiw yn rhan o Algeria a Moroco.[2] Cawsant eu troi'n Fwslimiaid yn yr 8g, ac ymfudant i'r de-orllewin, y wlad a elwir heddiw Mawritania, ac i'r gogledd i Benrhyn Iberia. Trechant y Fisigothiaid yn Iberia, a chawsant eu gwthio'n ôl o Ffrainc gan Charles Martel yn 732. Sefydlwyd brenhinllin yr Umayyad yn Córdoba, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn galiffiaeth. Er i ddiwylliant y Mwriaid ffynnu, nid oedd llywodraeth ganolog gryf ganddynt a buont yn rhyfela'n erbyn y Cristnogion yng ngogledd-orllewin Sbaen. Cwympodd y galiffiaeth yn 1031, a daeth ei thiriogaethau dan reolaeth yr Almorafidiaid ac yna'r Almohadiaid yn hwyr y 12g. Yn raddol, enillodd y Cristnogion dir oddi ar y Mwriaid yn Iberia yng nghyfnod y Reconquista. Granada oedd yr olaf o gaerau'r Mwriaid i gwympo i'r Cristnogion, a hynny yn 1492.

Arhosodd nifer o'r Mwriaid yn Sbaen, a throdd rhai ohonynt yn Gristnogion, a elwir yn Forisgiaid. Cawsant eu herlid dan y Brenin Felipe II ac yn ystod y Chwilys Sbaenaidd. Cafodd y gweddill eu halltudio yn 1609.

  1.  Mŵr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2018.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Moor (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne