OPEC

Baner OPEC
Pencadlys OPEC yn Fienna

Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr olew yw OPEC (o'r Saesneg: Organization of the Petroleum Exporting Countries neu'n Gymraeg, Cyfundrefn Gwledydd Allforio Petroliwm). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Sefydlwyd OPEC ar 14 Medi 1960 yn Baghdad (Irac), gyda'r syniad yn dod o Feneswela. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd Sawdi Arabia, Iran a Ciwait. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn: Qatar (1961), Indonesia (1962-2008), Libia (1962), Emiradau Arabaidd Unedig (1967), Algeria (1969), Nigeria (1971), Ecwador (1973-1992 a dod yn aelod eto Tachwedd 2007), Gabon (1975-1994) ac Angola (2007). Mae'r pencadlys yn Fienna ers 1965.

Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw: Aljeria, Angola, Cowait, Ecwador, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Gini'r Cyhydedd, Gabon, Iran, Irac, Gweriniaeth y Congo, Libia, Nigeria, Arabia Sawdi (arweinydd de fact), a Feneswela. Mae Indonesia a Catar yn gyn-aelodau.[1] Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.

Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw Canada, Mecsico, Norwy, yr Unol Daleithiau, Rwsia ac Oman yn aelodau.

Aelodau OPEC mewn glas tywyll. Mae Gabon ac Indonesia (glas golau) wedi gadael OPEC.
  1. https://www.opec.org/opec_web/en/press_room/4305.htm

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne